Close icon

Personalise what you see on this page.

Choose from the options below. We'll show you information based on your current location as default.

I'M FROM

  • United States
Please select so we can show the most relevant content.

LIVING IN

  • United States
Please select so we can show the most relevant content.

LOOKING FOR

  • Undergraduate courses
Please select so we can show the most relevant content.
Viewing as a student from United States living in United States interested in Undergraduate courses

Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Hons)

Cardiff University

Add to favourites

Course options

  • Qualification

    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)

  • Location

    Cardiff University - Cathays Park Campus

  • Study mode

    Full time

  • Start date

    SEP

  • Duration

    3 Years

Course summary

Gyda’n rhaglen BA Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, ac yn ymwneud â llenyddiaeth Saesneg o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Byddwch yn ennill sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru fodern a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwl yn eich galluogi i archwilio pynciau fel ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol. Ym maes Llenyddiaeth Saesneg, mae’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd wedi ein cyfareddu, ac mae ein haddysgu yn adlewyrchu’r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd i'r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda'r nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis feysydd astudio. Yn ystod eich gradd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle siaredir Cymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth. Mae modiwl craidd blwyddyn olaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi’r cyfle i chi wneud archwiliad manwl o un testun ar draws semester cyfan a defnyddio’r profiad a’r wybodaeth a enillwyd fel sail i ddarn o waith sydd ar gael i’r cyhoedd. Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r heriau ieithyddol a diwylliannol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.


Nodweddion Unigryw’r Rhaglen


Dilynwch eich diddordebau:

Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg, a gwahanol gyfnodau a genres mewn llenyddiaeth Saesneg.


Meddyliwch dros eich hun:

Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.


Antur ac archwilio:

Cyfleoedd i astudio dramor yn Ewrop a thu hwnt, gan feithrin annibyniaeth a gwytnwch.


Cymraeg yn y gweithle:

Magwch eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.


Cyfathrebu’n effeithiol:

Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Tuition fees

Students living in United States
(International fees)

£ 24,700per year

Tuition fees shown are for indicative purposes and may vary. Please check with the institution for most up to date details.

University information

Cardiff University

Cardiff University

  • University League Table

    27th

  • Campus address

    Cardiff University - Cathays Park Campus, Park Place, Cardiff, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cardiff University has a welcoming and vibrant international community, with over 7,500 students coming from more than 130 countries.
Cardiff is a truly global institution with more than 200 partnerships and formal research links worldwide, giving students access to unique opportunities.
A wide range of dedicated support services for international students, including pre-departure advice, airport pickups, personal tutor guidance and more.

Subject rankings

  • Subject ranking

    29th out of 91 2

  • Entry standards

    / Max 202
    130 64%

    29th

  • Graduate prospects

    / Max 100
    64.0 64%

    54th

    41
  • Student satisfaction

    / Max 4
    3.31 83%

    31st

    47

Is this page useful?

Yes No

Sorry about that...

HOW CAN WE IMPROVE IT?

SUBMIT

Thanks for your feedback!