We use cookies to ensure the best user experience and to serve tailored advertising. To learn more about our cookies and how to manage them, please visit our cookie policy

I AGREE
Close icon

Personalise what you see on this page.

Choose from the options below. We'll show you information based on your current location as default.

I'M FROM

  • United States
Please select so we can show the most relevant content.

LIVING IN

  • United States
Please select so we can show the most relevant content.

LOOKING FOR

  • Undergraduate courses
Please select so we can show the most relevant content.
Viewing as a student from United States living in United States interested in Undergraduate courses

Hanes Modern a Gwleidyddiaeth BA (Hons)

Aberystwyth University

Add to favourites

Course options

  • Qualification

    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)

  • Location

    Main Site (Aberystwyth)

  • Study mode

    Full time

  • Start date

    27-SEP-21

  • Duration

    3 Years

Course summary

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Gwleidyddiaeth a Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n cael y cyfle i astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri sy’n arloesi o ran dysgu ac ymchwil, sef yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Mae’r cynllun gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn un cyffrous a diddorol. Mae’r cynllun gradd Anrhydedd Sengl mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn canolbwyntio ar hanes a gwleidyddiaeth ddiweddar. Mae’n cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn cwrs cyfrannol sy’n rhoi cryn hyblygrwydd i ti wrth ddewis modiwlau. Rhennir y gwaith dysgu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, dwy adran a enillodd glod am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu priod feysydd.Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio elfen o hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd elfen wleidyddol y radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth. Bydd gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn caniatáu i ti roi digwyddiadau diweddar mewn perspectif ac yn rhoi i ti sgiliau dadansoddi dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd.Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydym yn eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd orau posib. Mae darlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyd hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Gwleiyddiaeth a Hanes Modern yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adrannau. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti ysgrifennu dy draethawd estynedig yn dy drydedd flwyddyn.Mae cymdeithasau myfyrwyr bywiog yn y ddwy adran, sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae ganddynt hefyd gysylltiadau â phrifysgolion dethol dramor, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifys

Application deadline

15 January

Tuition fees

Students living in United States
(international fees)

£ 13,600per year

Tuition fees shown are for indicative purposes and may vary. Please check with the institution for most up to date details.

University information

Aberystwyth University

  • University League Table

    58th

  • Campus address

    Aberystwyth University, Penglais, Aberystwyth, United Kingdom, SY23 3FL, Wales

Over 100 nationalities are represented on campus, creating a truly multicultural and cosmopolitan learning environment.
The university’s research is internationally recognised. Some departments work with global organisation such as NASA and the UN.
Aberystwyth University has been welcoming students from all over the world since 1872, drawn by its reputation for teaching excellence.

Subject rankings

  • Subject ranking

    36th out of 93 2

    27th out of 85 1

  • Entry standards

    / Max 213
    126 61%

    38th

    5
  • Graduate prospects

    / Max 100
    75 75%

    22nd

  • Student satisfaction

    / Max 5
    4.34 87%

    13th

    8
  • Entry standards

    / Max 217
    112 51%

    51st

    4
  • Graduate prospects

    / Max 100
    76 76%

    24th

  • Student satisfaction

    / Max 5
    4.32 86%

    4th

    2

Is this page useful?

Yes No

Sorry about that...

HOW CAN WE IMPROVE IT?

SUBMIT

Thanks for your feedback!